Cyrsiau Hyfforddi ar gyfer Ysgolion Cynradd
Pam dewis Ffa-la-la?
Bydd hyfforddiant Ffa-la-la yn sefydlu gwaith o ansawdd uchel ym maes Datblygu’r Gymraeg. Mae cysylltiad eglur rhwng ansawdd hyfforddiant a’i effaith ar addysgu ym maes Datblygu’r Gymraeg. Wedi i ymarferwyr mewn ysgolion a lleoliadau’n derbyn hyfforddiant Ffa-la-la a chyflwyno yr adnoddau i'r ystafell ddosbarth maent yn aml yn teimlo’n fwy hyderus a phositif. Mae ein hyfforddiant yn canolbwyntio ar ddysgu patrymau iaith bob dydd trwy GÂN, OFFERYNNAU a CHWARAE RÔL. Cefnogir yr holl staff gydag adnodd addysgu a fydd yn arwain athrawon a chynorthwywyr addysgu i gyflwyno Ffa-la-la! yn hyderus yn y dosbarth.
Mae'r cwrs hyfforddi hynod ymarferol a hwyliog hwn yn sicrhau bydd dysgwyr yn datblygu eu medrau llafar mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, Mae'r hyfforddiant yn addas ar gyfer HMS neu Min Nos ar gyfer yr holl staff addysgu a gellir ei gyflwyno ar gyfer grwpiau adrannol, clwstwr neu darged. Gellir cynnal hyfforddiant yn eich ysgol neu ysgol arall, yn dibynnu ar ba un sy'n cynnal y digwyddiad/
