Sefydlwyd Ffa-la-la yn 2014 gan Carys Gwent. Mae’n athrawes gymwysedig ac mae ganddi BA o Brifysgol Aberystwyth ac MA o’r Mountview Academy of Theatre and Arts.
Mae dull Ffa-la-la wedi’i gynllunio o gwmpas tua 20 o batrymau brawddegau a amlygir yn y ‘Continwwm o Batrymau’r Gymraeg’. Crëwyd cyfres o weithgareddau yn benodol er mwyn dod â’r patrymau brawddegau hyn yn fyw.
Mae pob patrwm brawddeg wedi’i gynnwys mewn pecyn adnoddau, sydd hefyd yn cynnwys:
Ar gyfer yr ysgolion neu’r meithrinfeydd hynny sy’n dymuno rhoi dull Ffa-la-la ar waith, rydym yn cynnal y cyrsiau hyfforddi canlynol:
Cwrs Ymwybyddiaeth ar gyfer ysgolion (1 diwrnod)
Cwrs Ymarferwyr ar gyfer ysgolion (2 ddiwrnod)
Hyfforddiant HMS ar gyfer ysgolion (hanner diwrnod/diwrnod cyfan/sesiwn gyda’r hwyr)
Cwrs Ymarferwyr Ffa-la-la ar gyfer meithrinfeydd (1 diwrnod)