Sesiwn hyfforddi hanner dydd yw hon ar gyfer staff sy’n dymuno deall yr egwyddorion sy’n sail i fethodoleg Ffa-la-la, ynghyd ag ymarferoldeb defnyddio’r dull yn fodd i feithrin sgiliau’r Gymraeg. Mae’r rheiny sy’n mynd ar y cwrs yn debygol o fod yn staff uwch, gan gynnwys Cydgysylltwyr y Gymraeg.
Pris: £95 fesul person. Gostyniwyd y pris i £80 os ydych yn archebu lle ar gyfer Tymor Hydref 2019.
Sesiwn hyfforddi dau ddiwrnod yw hon a gynlluniwyd ar gyfer staff addysgu a fydd yn rhoi dull Ffa-la-la ar waith. Mae’r cwrs wedi’i strwythuro o amgylch patrymau brawddegau a ddewiswyd o’r ‘Continwwm o Batrymau’r Gymraeg’. Bydd y cwrs ymarferol iawn hwn yn cyflwyno’r caneuon a’r gweithgareddau gyda’r bwriad o feithrin y sgiliau addysgu angenrheidiol. Cafwyd adborth cadarnhaol iawn ar y cyrsiau hyn o ran effeithiolrwydd y dull Ffa-la-la a’r mwynhad a gafodd y rhai a oedd yn bresennol.
Darperir pecyn adnoddau cynhwysfawr gyda’r cwrs hyfforddi hwn. Mae’r pecyn yn cynnwys patrymau brawddegau allweddol wedi’u dewis o gontinwwm y Gymraeg. Ar gyfer pob patrwm brawddegau, mae yna gynllun gwers, recordiad o bob cân, geiriau’r gân, awgrym am weithgaredd perthnasol, ymarferion ysgrifenedig, a stori sy’n atgyfnerthu’r thema.
Pris: Cwrs dau ddiwrnod wedi’i brisio am £250 fesul person fesul diwrnod wedi’i ostwng i £200 fesul person fesul diwrnod os ydych yn bwcio ar gyfer Tymor yr Hydref 2019. Ymholiad
Mae diwrnodau HMS Ffa-la-la a’r hyfforddiant DPP gyda’r hwyr yn rhoi dirnadaeth o fuddion dull Ffa-la-la i’r holl staff. Anelir y cwrs at staff sy’n dymuno deall yr egwyddorion sy’n sail i fethodoleg Ffa-la-la, ynghyd ag ymarferoldeb ddefnyddio’r dull yn fodd i feithrin sgiliau’r Gymraeg. Mae’n addas ar gyfer yr holl staff addysgu, a gellir ei ddarparu ar gyfer grwpiau adran, clwstwr neu darged. Gellir cynnal yr hyfforddiant yn eich ysgol neu mewn ysgol arall, yn dibynnu ar ba un sy’n cynnal y digwyddiad.
Pris: Cysylltwch â ni er mwyn cael pris. Ymholiad